Ymchwilydd Radio Cymru : EXTEND

Be among the first applicants.
ENGINEERINGUK
Bangor
GBP 60,000 - 80,000
Be among the first applicants.
7 days ago
Job description

Pecyn Swydd

EX2324

Band : B

Cyflog : £24,300 - £29,000 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad

LLeoliad : Bangor / Caerdydd

Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu'n niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai: y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu'r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio'n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.

Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend drwy flwch derbyn Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC.

Mae'r BBC wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu addasiadau i'r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy'n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy'n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol ein cyflogaeth gyda ni. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.

Cyflwyniad i'r Swydd

Mae Radio Cymru wedi bod yn darlledu ers 1977, gyda Radio Cymru 2 yn lansio yn 2018. Rydym yn darlledu argyfartaledd dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ar draws Cymru ar byd. Mae Radio Cymru yngwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, rhaglenni trafod, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau a llawer mwy-heb sôn am gynniggwasanaeth newyddion a chwaraeon llawn. Rydym hefyd yn bresenoldeb rheolaidd mewn digwyddiadau o bob math fel Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, Y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth ac adloniant yw pwyslais Radio Cymru 2 a gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymchwilydd ar amrywiaeth o raglenni ar draws Radio Cymru a Radio Cymru.

Prif Gyfrifoldebau

Fel rhan o dîm cynhyrchu creadigol iawn, byddwch yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau a chynnwys, weithiau i amserlen dynn. Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o ddarlledu'r cynnwys yna ar Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn ôl y galw.

Ai chi yw'r ymgeisydd cywir?

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn berson brwdfrydig, creadigol a threfnus, sy'n gweithio'n dda fel unigolyn neu fel rhan o dîm. Bydd hefyd gyda brwdfrydedd dros ddarlledu a diwydiant y cyfryngau.

  1. Angerdd tuag at ymchwilio cynnwys creadigol a pharodrwydd i gyfrannu i nifer o raglenni amrywiol Radio Cymru.
  2. Ymwybyddiaeth o ofynion llwyfannau digidol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, a'r cyfleon allai godi i Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn eu sgil.
  3. Ymwybyddiaeth o arddull Radio Cymru a Radio Cymru 2 a gwybodaeth am yr orsaf a'i rhaglenni.
  4. Parodrwydd i ddysgu sut i ddefnyddio systemau a gweithdrefnau darlledu newydd.
  5. Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.
Get a free, confidential resume review.
Select file or drag and drop it
Avatar
Free online coaching
Improve your chances of getting that interview invitation!
Be the first to explore new Ymchwilydd Radio Cymru : EXTEND jobs in Bangor