We're looking for a Project Manager to take the lead in the early stages of a number of important projects. You’ll work with the client to define the scope of each project, leading the design and development, through to business case sign off and potentially the award of external funding.
Based at one of our regional offices in Wales, our hybrid working policy means you can balance office and home working with site visits and meetings at other National Trust places. We’ll talk about this in more detail at interview, but you should expect to be at a National Trust site for 40-60% of your working week.
This is a fixed term role for 2 years
Internally you’ll be known as a Project Manager.
First stage interviews will held on 31 January 2025 and will be conducted virtually.
Rheolwr Prosiect – Datblygu
Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect i arwain ar gamau cynnar sawl prosiect pwysig. Byddwch yn gweithio gyda’r cleient i ddiffinio cwmpas pob prosiect, gan arwain ar y gwaith o ddylunio a datblygu, hyd at gymeradwyo achos busnes ac o bosibl, dyfarnu cyllid allanol.
Wedi’ch lleoli yn un o’n swyddfeydd rhanbarthol yng Nghymru, mae ein polisi gweithio hybrid yn golygu y gallwch gydbwyso gweithio yn y swyddfa a gartref gydag ymweliadau safle a chyfarfodydd yn lleoliadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwn yn sgwrsio am hyn yn fanylach yn y cyfweliad, ond dylech ddisgwyl bod ar un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 40-60% o'ch wythnos waith.
Mae hon yn swydd cyfnod penodol am 2 flynedd.
Yn fewnol, teitl eich swydd fydd Rheolwr Prosiect.
Bydd cyfweliadau cychwynnol yn cael eu cynnal yn rhithiol ar y 31ain o Ionawr 2025.
What it's like to work here
You’ll be part of the Trust’s internal consultancy: a flexible resource of specialist skills and expertise. As one of a multidisciplinary team of experts, including curators, fundraisers, building surveyors and other project managers, you’ll be working with others to help make things happen. We work closely with our fundraising consultants so that we’re developing projects that delight our external funders. Using our project management tools and framework, you’ll ensure the projects stay on track for budget and delivery. These projects could be nature conservation focussed, or address our built environment needs or help deliver our Everyone Welcome ambitions, or any other aspect of the National Trust strategy. We’ll give you support in all aspects of National Trust project management.
Sut brofiad yw gweithio yma:
Byddwch yn rhan o ymgynghoriaeth fewnol yr Ymddiriedolaeth: adnodd hyblyg o sgiliau arbenigol. Fel un o dîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr, gan gynnwys curaduron, codwyr arian, syrfewyr adeiladu a rheolwyr prosiect eraill, byddwch yn gweithio gydag eraill i wneud i bethau ddigwydd. Rydym yn gweithio yn agos â’n hymgynghorwyr codi arian fel ein bod yn datblygu prosiectau sy'n plesio ein harianwyr allanol. Gan ddefnyddio ein hoffer a’n fframwaith rheoli, byddwch yn sicrhau fod prosiectau’n aros ar y trywydd iawn o ran cyllid a darpariaeth. Gallai’r prosiectau hyn fod yn canolbwyntio ar natur a chadwraeth, neu’n mynd i’r afael â’n hanghenion amgylchedd adeiledig neu helpu i gyflwyno ein huchelgeisiau Croeso i Bawb, neu unrhyw agwedd arall ar strategaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwn yn darparu cefnogaeth gyda phob agwedd ar reoli prosiectau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
What you'll be doing
During the next two years you’ll take the lead on a number of new projects, particularly in the scoping and design stages. With the client and internal stakeholders, and with external partners, you’ll shape the project from concept through to business case and in many cases, to application for external funding. You’ll work with others in the consultancy, drawing in their expertise as needed. You’ll create project plans, identify risks, comply with all reporting requirements and governance to ensure you generate support for your projects.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
Yn ystod y ddwy flynedd nesaf byddwch yn arwain sawl prosiect newydd, yn benodol yn y camau pennu cwmpas a dylunio. Gyda’r cleient a’r rhanddeiliaid mewnol, a gyda phartneriaid allanol, byddwch yn siapio’r prosiect o’r cysyniad hyd at yr achos busnes ac yn aml, hyd at gyflwyno cais am gyllid allanol. Byddwch yn gweithio gydag eraill o fewn yr ymgynghoriaeth, gan fanteisio ar eu harbenigedd yn ôl yr angen. Byddwch yn creu cynlluniau prosiect, nodi risgiau, cydymffurfio â'r holl ofynion adrodd a llywodraethu i sicrhau eich bod yn ennyn cefnogaeth ar gyfer eich prosiectau.
Who we're looking for
Am bwy ydym ni'n chwilio?
The package
The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.
Y pecyn
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.